Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019
Amser:
09.15 -
12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5305
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Carwyn Jones AC Jenny Rathbone AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Lisa James, Llywodraeth Cymru Gareth Thomas, r, Llywodraeth Cymru Sophie Howe, Future Generations Commissioner Marie Brousseau-Navarro, Legislation and Innovation |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Lisa Griffiths (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol
· Gareth Thomas, Cynghorydd Polisi, Diwygio Etholiadol (Is-adran Llywodraeth Leol)
2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pa gamau y gellid eu cymryd pe bai carchar yn Lloegr yn penderfynu peidio â chydweithredu ag unrhyw newid posibl yn y gyfraith i alluogi carcharorion o Gymru i bleidleisio.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
· Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi
5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
· manylion ynghylch y ffordd y mae KeolisAmey wedi nodi y mae'n anelu at gyflawni'r nodau llesiant;
· manylion y gwaith sy'n cael ei wneud gan fyrddau iechyd a llywodraeth leol i gyflawni'r nodau llesiant; a
· copi o'r rhaglen waith ar y cyd y mae'n ei pharatoi gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru ar feysydd blaenoriaeth.
6.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â chytundeb perthnasau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
6.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'r ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.
7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch materion y mae'n dymuno eu trafod ymhellach.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a'i gytuno.